Y Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

 

 

Mae'r papur hwn yn ymateb i elfennau Cyfoeth Naturiol llythyr y Pwyllgor dyddiedig 6 Mehefin a gyfeiriwyd at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd.

 

Bioamrywiaeth

1.     Bydd y Cynllun Adfer Natur yn nodi'r camau gweithredu strategol y bydd Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac eraill yn eu cymryd er mwyn atal ein bioamrywiaeth a'n byd natur rhag diflannu, gan gynyddu gwydnwch ein hamgylchedd naturiol a gwella'r buddiannau i economi a chymdeithas Cymru.

 

2.     Caiff ymgynghoriad ei lansio ar y Cynllun Adfer Natur yng Nghynhadledd Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru ar 10 a 11 Medi, a disgwylir i'r fersiwn derfynol gael ei chyhoeddi ddechrau 2015. Datblygwyd y gwaith drwy fwrdd traws-sector sy'n cynnwys cynrychiolwyr o gyrff natur a chyrff amgylcheddol, undebau ffermio, buddiannau coedwigaeth a buddiannau tirfeddianwyr, a llywodraeth leol.

 

3.     Nod y Cynllun Adfer Natur yw hwyluso'r newid o'r dull traddodiadol o ymdrin â bioamrywiaeth i'r dull integredig yn seiliedig ar ardaloedd sy'n gysylltiedig â Rheoli Adnoddau Naturiol, a fydd yn un o nodweddion allweddol Bil arfaethedig yr Amgylchedd. Mae'r cynllun yn anelu at roi ffocws clir i gamau gweithredu sy'n ymwneud â bioamrywiaeth fel rhan annatod o Reoli Adnoddau Naturiol. 

 

4.     Mae'r dull Rheoli Adnoddau Naturiol yn canolbwyntio ar gynyddu gwydnwch sylfaenol ein systemau naturiol er mwyn gosod sylfaen i sicrhau buddiannau bioamrywiaeth ac atgyfnerthu buddiannau cyhoeddus ehangach. Mae'n cydnabod realiti'r rhyng-ddibynniaeth rhwng byd natur a ffactorau cymdeithasol ac economaidd, ac yn pwysleisio'r dull gweithredu ar raddfa tirlun sydd ei angen er mwyn mynd ati o ddifrif i atal y dirywiad o ran bioamrywiaeth a chynnal y gwasanaethau a ddarperir gan ein hamgylchedd naturiol.

 

5.     Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu Canolfan Wybodaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gydweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru.  Diben y Ganolfan Wybodaeth yw gwella mynediad i ddata a gwybodaeth am amgylchedd Cymru a'r trefniadau ar gyfer rhannu'r data a'r wybodaeth honno. Mae gwefan gychwynnol y Ganolfan Wybodaeth bellach yn fyw, gan roi cyfle i bobl gael gafael ar ddata cadarn, cyfredol: http://lle.wales.gov.uk/environment?lang=cy.

 

 


Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio

 

6.     Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Defra a llu o gyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol er mwyn cyflawni canlyniadau'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio. Mae Tasglu Pryfed Peillio Cymru bellach wedi'i sefydlu i roi'r Cynllun ar waith, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau bywyd gwyllt, gwenynwyr, awdurdodau lleol a'r llywodraeth.

 

7.     Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Defra a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddatblygu'r sail dystiolaeth ar bryfed peillio, ac mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu a phrofi cynllun monitro cenedlaethol ar gyfer pryfed peillio.

 

8.     Nodwyd rheoli lleiniau ymyl ffordd fel maes i weithredu arno, ac mae'r Tasglu Pryfed Peillio wedi casglu ac wedi rhannu arfer da gydag awdurdodau priffyrdd.  Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fenter pum mlynedd Lleiniau Ymyl Ffyrdd ar gyfer Blodau Gwyllt ar gyfer traffyrdd a chefnffyrdd Cymru, a fydd yn creu lleiniau ymyl ffordd newydd yn llawn blodau gwyllt ac yn diogelu lleiniau o'r fath sy'n bodoli eisoes yn ogystal â gwella amodau ar gyfer blodau gwyllt drwy waith cynnal a chadw priodol. 

 

9.     Mae Glastir yn cynnwys yr adnoddau priodol, megis rheoli gweirgloddiau traddodiadol a chreu perllannau traddodiadol, a fydd yn helpu i greu a gwella cynefinoedd blodeuo amrywiol a chysylltiedig ar draws ardaloedd o ffermdir.  Mae Glastir Uwch yn cynnwys amcanion targed ar gyfer rhywogaethau pwysig o wenyn ac ieir bach yr haf.  Caiff contractau eu gwerthuso yn ddiweddarach eleni, er mwyn penderfynu p'un a ellid gwella'r trefniadau mewn rhai meysydd penodol, er enghraifft, yr amcanion targed sy'n ategu'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio.  Rhoddwyd cyngor rheoli i reolwyr tir hefyd drwy Gwlad a chaiff hyn ei ddatblygu ymhellach gyda Cyswllt Ffermio.

 

10.  Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r cynefinoedd pryfed peillio sy'n cael eu colli yng Nghymru ac i ddangos pa mor hawdd ydyw i greu cynefinoedd lleol i'n gwenyn a'n hieir bach yr haf, rhoddodd Llywodraeth Cymru gyllid i dros 200 o ysgolion a grwpiau cymunedol, yr oedd 7,500 o wirfoddolwyr yn gysylltiedig â hwy, drwy ymgyrch 'Penwythnos Gwyllt dros Gymru' Cadwch Gymru'n Daclus. Mae adroddiad wrthi'n cael ei baratoi ar yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Coedwigaeth

 

11.  Caiff polisi coedwigaeth ei arwain gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rheoli ystad coedwigoedd cyhoeddus Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rôl Partneriaeth Fusnes Coedwig Cymru sy'n gyfrifol am gefnogi busnesau a chadwyni cyflenwi, yn ogystal â rhoi cefnogaeth gyffredinol i'r sector.  Rydym yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector coedwigaeth breifat i ddatblygu strategaeth coed i Gymru er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r canlyniadau economaidd gorau wrth dorri coed o goetiroedd cyhoeddus a phreifat. Mae'r broses hon yn gwbl gynhwysol, ac rydym yn gweithio gyda'r sector er mwyn sicrhau y caiff strategaeth gadarn a realistig ei llunio sy'n gynaliadwy ac yn gyflawnadwy, er mwyn diogelu buddsoddiad hirdymor yn y diwydiant prosesu coed yng Nghymru. 

 

12.  Mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan y sector yn sesiynau craffu diweddar Pwyllgor Amgylchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi atgyfnerthu ei dîm coedwigaeth drwy benodi swyddog coedwigaeth profiadol (Ruth Jenkins) i swydd fel uwch reolwr gyda chymorth nifer o aelodau eraill o staff ag arbenigedd ym maes coedwigaeth. Mae'r sector preifat wedi croesawu'r datblygiad hwn a dylai arwain at well cyfathrebu rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, tîm polisi coedwigaeth Llywodraeth Cymru a'r sector preifat yn y dyfodol.

 

13.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi trefnu seminarau i gontractwyr, tyfwyr preifat a'r sector i ystyried arfer gorau ar gyfer gweithrediadau coedwigaeth, wedi cynnal nifer o seminarau iechyd coed ac wedi cyfarfod â'r sector i drafod sut y gellid symleiddio'r trefniadau gweinyddol ar gyfer trwyddedau cwympo coed. Mae cynrychiolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru o'r sector coed a grwpiau rhanddeiliaid ehangach yn rhan o Grŵp Llywio Iechyd Coed Llywodraeth Cymru sydd wedi datblygu strategaethau ar gyfer iechyd coed a rheoli Phytophthora ramorum.  Mae'r Grŵp wedi datblygu rhaglen hirdymor ar gyfer adfer coetiroedd yng Nghymru ar ôl y difrod a achosir gan Phytopthora ramorum.

 

14.  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r sector ac mae wedi sefydlu Fforwm Rheoli Tir Cymru sy'n cynnwys dau gynrychiolydd o'r sector coedwigaeth i lywio'r ffordd y caiff ei gylch gwaith coedwigaeth ei roi ar waith fel rhan o drefniadau Rheoli Adnoddau Naturiol ehangach. Mae'n gobeithio atgyfnerthu ei rôl a'i ehangder er mwyn cynnwys mwy o gynrychiolwyr o'r byd coedwigaeth. Mae'r sefyllfa o ran ymagwedd Cyfoeth Naturiol Cymru at goedwigaeth yng Nghymru a'i gydberthynas â pherchenogion preifat wedi gwella.

 

15.  Cafodd y cyhoeddiad yn Sioe Frenhinol Cymru bod cymorth wedi'i ddyfarnu i Cyfoeth Naturiol Cymru a Coed Cymru o dan y Gronfa Natur i hyrwyddo ymdrechion i greu coetiroedd a'u rheoli ei groesawu fel arwydd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi coedwigaeth yng Nghymru.

 

16.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i greu 100,000 hectar o goetir newydd dros yr 20 mlynedd nesaf ac mae mesurau yng nghynigion Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 yn darparu cefnogaeth gadarn i goedwigaeth ac ymdrechion i greu coetiroedd yng Nghymru. Os caiff y Cynllun Datblygu Gwledig ei gadarnhau, dylai'r mesurau hyn gefnogi cynnydd parhaus yn nifer y coetiroedd a gaiff eu creu yn ystod y blynyddoedd nesaf.

 


Newid yn yr Hinsawdd

 

17.  Dangosodd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd ym mis Rhagfyr 2013 ein bod yn gwneud cynnydd yng Nghymru i leihau ein hallyriadau yn erbyn y targedau a bennwyd yn Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd 2010. Noda'r adroddiad hefyd y camau gweithredu allweddol a gymerwyd gennym i fynd i'r afael ag achosion a chanlyniadau newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.

 

18.  Er bod yr adroddiad yn dangos ein bod wedi rhagori ar ein targed blynyddol ar gyfer lleihau allyriadau, sef 3%, ar gyfer data 2011, bydd cynnal y gostyngiad hwn yn gynyddol heriol. Yn ogystal, noda'r adroddiad blynyddol fod angen i ni weithredu ymhellach er mwyn cyflawni ein gostyngiad mwy heriol o 40% mewn allyriadau erbyn 2020. Mae angen gwneud rhagor o waith er mwyn adeiladu ar y cynnydd hwn.

 

19.  Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar ddiweddariad polisi ym mis Gorffennaf, gan gadarnhau ein bwriad i adolygu'r cynnydd a wnaed wrth roi camau gweithredu ymarferol ar waith ac ystyried y cyfraniadau a gawsom yn ddiweddar gan Gomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a chyrff arbenigol, er mwyn helpu i nodi camau gweithredu i gynyddu momentwm ymhellach. 

 

20.  Bydd y diweddariad polisi yn canolbwyntio ar y camau gweithredu ymarferol y gallwn eu cymryd mewn perthynas â'n targedau allyriadau, yn ogystal â sut y gall y camau hynny helpu i gyflawni blaenoriaethau ehangach y llywodraeth wrth anelu at Gymru carbon isel, sy'n defnyddio adnoddau yn effeithlon ac sy'n gymdeithasol gynhwysol.

 

21.  Y sector Amaethyddiaeth a Defnydd Tir sy'n gyfrifol am 21% o'r allyriadau a gwmpesir gan y targed o 3% ac mae ganddo lefel allyriadau sylfaenol o 5.96 Mt CO2e.

 

22.  Mae allyriadau amaethyddiaeth a defnydd tir wedi cynyddu ers 2009, yn bennaf o ganlyniad i etifeddiaeth hanesyddol o goedwigaeth sy'n heneiddio yng Nghymru a gostyngiad sylweddol cysylltiedig yn rhestr enghreifftiol y ddalfa goedwigaeth yng Nghymru. Mae'r cynnydd hwn yn allyriadau cyffredinol y sector yn adlewyrchu'r ffaith bod cnydau coedwigaeth a blannwyd gan fwyaf yn ystod y 1950au-1970au yn aeddfedu. Fodd bynnag, ystyrir bod y model wedi goramcangyfrif graddau'r effaith rhwng 2009 a 2010.

 

23.  O ystyried y cynnydd bach, rydym wedi comisiynu adolygiad o'r adroddiad Defnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd, a fydd yn ystyried sut y gellir mireinio'r polisi lliniaru a'r polisi addasu yn y maes hwn fel rhan o'n camau nesaf. Bydd yr Adolygiad yn defnyddio argymhellion adroddiad y Grŵp Defnydd Tir a Newid yn yr Hinsawdd fel man cychwyn.

 

24.  Y Cynlluniau Ymaddasu Sectorol yw'r prif gyfrwng a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau bod nodau ac amcanion ein sectorau yn ddigon cadarn mewn perthynas â'r hinsawdd ar gyfer y ganrif sydd i ddod.

 

25.  Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda grŵp Gorchwyl a Gorffen Ymaddasu'r Comisiwn Newid yn yr Hinsawdd i lunio canllawiau, offer ac adnoddau ar gyfer y sectorau.

 

26.  Amrywiol fu'r cynnydd hyd yma rhwng y gwahanol sectorau ond bydd Cynlluniau Ymaddasu Sectorol yn ymdrin â'r pum sector canlynol:

 

·         Yr Amgylchedd Naturiol,

·         Seilwaith,

·         Iechyd,

·         Cymunedau

·         Busnes a Thwristiaeth

 

27.  Mae Cynllun Ymaddasu Sectorol sefydledig eisoes ar waith o fewn y Sector Iechyd. Rydym wrthi'n gweithio ar hyn o bryd gyda'r sector twristiaeth ar brosiect a fydd yn ceisio nodi'r risgiau i'r diwydiant twristiaeth, creu asesiad risg lefel uchel ar gyfer busnesau twristiaeth yng Nghymru a darparu nifer o systemau ac adnoddau i helpu busnesau yn dilyn hyn.

 

28.  Rydym yn gweithio ar hyn o bryd i ddatblygu Cynllun Ymaddasu Sectorol ar gyfer sector yr amgylchedd naturiol gyda Chomisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.

 

Strategaeth Ddŵr

29.  Cynhaliwyd ymgynghoriad gennym yn ddiweddar ar ein Strategaeth Ddŵr i Gymru. Nododd y cyfeiriad ar gyfer polisi dŵr yng Nghymru yn y dyfodol a sut y byddwn yn sicrhau bod dŵr yn parhau i ddiwallu anghenion cymunedau, busnesau a'r amgylchedd.

 

30.  Mae datblygu ffordd fwy integredig o reoli ein hadnoddau dŵr, fel rhan o'r dull Rheoli Adnoddau Naturiol ehangach, yn allweddol i'r dull gweithredu a nodwyd gennym yn yr ymgynghoriad.  Bydd hyn yn cynnwys trefniadau i gydgysylltu'r broses o reoli tir, dŵr ac adnoddau cysylltiedig eraill er mwyn sicrhau buddiannau i'r gymdeithas ehangach a'r economi, yn ogystal â buddiannau i'r amgylchedd.

 

31.  Daeth yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Ddŵr i Gymru i ben ar 4 Gorffennaf.  Cafwyd cyfanswm o 59 o ymatebion gan amrywiaeth eang o sefydliadau gan gynnwys y diwydiant dŵr, grwpiau cadwraeth a grwpiau amgylcheddol, unigolion preifat, busnesau, llywodraeth leol, sefydliadau iechyd y cyhoedd, rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol a chynrychiolwyr defnyddwyr.

 

32.  Caiff crynodeb o'r ymatebion ei gyhoeddi yn ystod yr hydref a bydd fy ngwaith i ystyried yr ymatebion hyn yn llywio'r broses o ddatblygu'r strategaeth derfynol.

 

Adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru o Lifogydd Arfordirol yng Nghymru

 

33.  Cynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru adolygiad o lifogydd arfordirol, yn dilyn stormydd gaeaf mis Rhagfyr 2013 a mis Ionawr 2014.  Cyhoeddwyd yr adolygiad mewn dwy ran, gyda'r rhan gyntaf yn canolbwyntio ar yr effeithiau a'r costau cysylltiedig a'r ail ran yn ystyried y gwersi a ddysgwyd a'r argymhellion i'w rhoi ar waith.

 

34.  Nododd rhan gyntaf yr adolygiad, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, o ganlyniad i'n buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd a pherygl arfordirol, bod llai nag 1% o'r adeiladau a'r tir amaethyddol a oedd yn wynebu perygl posibl wedi profi llifogydd yn ystod stormydd y gaeaf.  Cyhoeddwyd ail ran yr adolygiad ar 30 Ebrill ac roedd yn cynnwys 47 o argymhellion.  Cyhoeddwyd ymateb ysgrifenedig i'r adolygiad hwn ar 22 Gorffennaf 2014 gan dderbyn pob un o'r 47 o argymhellion naill ai'n llwyr neu mewn egwyddor. Gwnaed y gwaith hwn gyda chymorth Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Cyllid.

 

35.  Mae'r argymhelliad cyntaf yn gofyn am gynllun cyflawni i roi'r argymhellion ar waith ac i nodi blaenoriaethau, arweinwyr priodol ac adnoddau angenrheidiol.  Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan arweiniol yn y gwaith o lunio cynllun cyflawni, ochr yn ochr â swyddogion Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd.  Cynhaliwyd gweithdy cychwynnol ar 31 Gorffennaf i ddechrau pennu cwmpas y cynllun cyflawni.  Er mwyn llwyddo, mae angen iddo fod yn ddarn o waith cydweithredol gan gynnwys cyfraniad gan wahanol adrannau'r llywodraeth a'r holl awdurdodau rheoli perygl llifogydd a pherygl arfordirol.

 

36.  Yn ogystal â'r argymhellion ar gyfer cynllun cyflawni, mae deg argymhelliad arall eisoes ar waith gan gynnwys gwaith ar ailfrandio Gwasanaeth Rhybuddio rhag Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwaith o baratoi ar gyfer ymarfer gwacáu arfordirol ac asesiad o'r newid amgylcheddol a ddeilliodd o'r stormydd.

 

37.  Mae'r argymhellion yn cyflwyno'r heriau y byddwn yn eu hwynebu yn y dyfodol o ran cynnal a meithrin cadernid yn erbyn digwyddiadau o'r fath, yn arbennig o ystyried y risgiau cynyddol sy'n deillio o newid yn yr hinsawdd. Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru yn: http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/flooding/studies/coastal-review-part-2/?lang=cy.

 

Biliau arfaethedig gan y Llywodraeth

 

38.  Bu swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Adran Cymunedau a Threchu Tlodi a'r Adran Tai ac Adfywio er mwyn sicrhau bod darpariaethau Bil yr Amgylchedd yn gyson â darpariaethau Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Bil Cynllunio.  Rhoddwyd sylw penodol i gyflawni'r nod cyffredin ar gyfer y Biliau hyn: symleiddio ac egluro prosesau rheoliadol presennol a rhoi seilwaith deddfwriaethol effeithiol a chydlynus ar waith ar gyfer datblygu cynaliadwy.

 

Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

 

39.  Bydd Bil yr Amgylchedd yn pennu fframwaith ar gyfer rheoli ein hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, gan sefydlu datblygu cynaliadwy fel egwyddor arweiniol i helpu i sicrhau llesiant amgylcheddol. Bydd y dull gweithredu hwn yn llywio'r gwelliant o ran gwneud penderfyniadau a'r feddylfryd hirdymor sydd wrth wraidd Biliau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac yn helpu i sicrhau'r canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd gorau posibl i Gymru.

 

40.  Bydd Bil yr Amgylchedd yn ategu'r cynigion o fewn Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn arbennig mewn perthynas â chyfraniad Cyfoeth Naturiol Cymru i Gyngor Cynghori arfaethedig Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, ac fel aelod statudol o Fyrddau Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru yn y dyfodol. Yn ymarferol, bydd y dull gweithredu hwn yn helpu i sicrhau y bydd tystiolaeth a blaenoriaethau allweddol mewn perthynas â rheoli adnoddau naturiol ar y lefel leol yn llywio'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol.  Yn ogystal, bydd y cynigion cydategol o fewn y ddau Fil yn golygu bod rheoli ein hadnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy wrth wraidd adroddiad cyfnodol arfaethedig Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar ran cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru. 

 

41.  Mae Bil yr Amgylchedd yn cynnig y dylid cyflwyno Datganiadau Ardal a fydd yn nodi'r cyfleoedd a'r heriau o ran rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy mewn ardal benodol.  Drwy aelodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru o'r Byrddau Gwasanaeth Cyhoeddus, bydd y wybodaeth hon yn llywio'r broses o ddatblygu'r Cynlluniau Llesiant.

 

42.  O dan Fil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, byddwn yn pennu fframwaith newydd i Gymru ar gyfer mesur cynnydd er mwyn ategu'r nodau a bennwyd fel rhan o'r Bil.  Bydd hyn yn adeiladu ar ein cyfres bresennol o ddangosyddion datblygu cynaliadwy i Gymru sydd eisoes yn mesur ein hymdrechion i ymdrin â materion amgylcheddol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, drwy fesur allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac yn disodli'r gyfres honno.

 


Y Bil Cynllunio

 

43.  Rydym wedi cydweithio'n agos er mwyn sicrhau cysondeb rhwng Bil yr Amgylchedd a'r Bil Cynllunio. Mae dull gweithredu Bil yr Amgylchedd sy'n seiliedig ar ardaloedd yn anelu at ddarparu sail dystiolaeth o ansawdd uwch ar gyfleoedd a risgiau mewn ardal er mwyn darparu sail dystiolaeth glir a chyson a all lywio'r gwaith o baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Bydd hyn yn ategu amcanion y Bil Cynllunio i wella'r broses o ddarparu gwasanaethau cynllunio lleol.

 

44.  Byddai'r dull gweithredu hefyd yn darparu sail glir a chyson i Cyfoeth Naturiol Cymru roi cyngor ar geisiadau cynllunio.